Amdanom ni
Mae Llesiant Rhieni Sengl yn cael ei redeg gan rieni sengl ar gyfer rhieni sengl. Mae Llesiant Rhieni Sengl yn edrych ar rieni sengl mewn modd tosturiol a chadarnhaol sy'n grymuso, gan ganolbwyntio ar lesiant.
Rydym yn cael gwared ar y gwarth o fod yn rhieni sengl drwy hyrwyddo'r ystod amrywiol o rieni sengl sy'n bodoli a'r straeon sydd ganddyn nhw. Credwn fod rhieni sengl yn archarwyr.
Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd i rieni sengl ddod yn rhan o'n cymuned, fel nad yw'r un rhiant sengl yn teimlo'n unig nac yn ynysig. Gallwch wirfoddoli gyda ni ac rydym yn cynnal ein gweithgareddau ar ddyddiau'r wythnos, ar benwythnosau, gwyliau banc a gwyliau eraill drwy gydol y flwyddyn, er mwyn darparu ar gyfer yr adegau hynny pan fydd rhieni sengl yn teimlo’n fwyaf unig.
Rhai o'r pethau rydym ni'n eu gwneud:
Gweithdai llesiant: Chwe wythnos o Weithdai Llesiant a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr, ac mewn partneriaeth â'r Sefydliad Iechyd Meddwl. Bob wythnos, ceisir mynd i'r afael â'r gwahanol rannau o fagu plant fel rhiant sengl y mae pob un ohonom yn eu cael yn anodd. Cafodd y rhain eu datblygu gyda rhieni sengl, ac maen nhw'n cynnig darlun dyfnach o iechyd meddwl a llesiant sy'n peri i chi feddwl. Mae'n cynnwys wythnos dan arweiniad Cynghorydd Human Givens a gwers mewn tylino Shiatsu.
Teithiau cerdded: Cerdded er llesiant ar hyd a lled Cymru, lle rydym yn cwrdd i gael sgwrs wrth gerdded o amgylch ein gwlad hyfryd. Mae'r plant, a ninnau, yn cael ymarfer corff, a hynny mewn grŵp croesawgar a chyfeillgar. Ac ar yr un pryd, rydym yn cadw cofnod o faint o gamau rydym ni'n eu gwneud. Gall rhieni sengl gofrestru i fod yn Bencampwr Cerdded yn eu hardal.
Presenoldeb ar-lein, presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau rhyngweithiol, podlediadau, blogiau a gweminarau. Ffordd arloesol o ryngweithio gyda rhieni sengl eraill lle bynnag yr ydych. I rannu eich profiadau da a drwg, cael cyngor a threfnu i gwrdd ag eraill.
Gwirfoddolwyr, mae llawer o gyfleoedd i rieni sengl ddod yn wirfoddolwyr, a chaiff Llesiant Rhieni Sengl ei arwain yn gyfan gwbl gan rieni sengl. Gallwch gymryd rhan drwy gynnig cymorth i eraill, dod yn llysgennad neu ysgrifennu blog.
Amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol a awgrymwyd gan y rhieni sengl, gan gynnwys teithiau gwersylla, teithiau i'r theatr, chwarae ystyriol, hyfforddiant cymorth cyntaf, gweithdy ar drin eich car, sesiynau celf, gweithdai graffiti ac ati.
Yn 2013, ceisiodd Rachel ddod o hyd i grŵp rhieni sengl y gallai ymuno ag ef: "Mae gennyf lawer o ffrindiau, ond nid oedd yr un ohonynt yn rhieni sengl ac roeddwn yn teimlo'n unig.” Methodd ddod o hyd i grŵp, felly rhoddodd hysbyseb ar Netmums a thrwy hwn, cyfarfu â rhieni sengl eraill a ddechreuodd gwrdd â'i gilydd ar benwythnosau. Yn ddiweddarach, cyfarfu ag Amy Holland a oedd hefyd yn rhiant sengl, ac roedd y ddwy yn rhannu'r un brwdfrydedd a gweledigaeth i drechu unigrwydd a'r teimlad o fod yn ynysig ymhlith rhieni sengl. Gwnaethant sicrhau cymorth parhaus ar gyfer iechyd meddwl a llesiant. Mae rhieni sengl deirgwaith yn fwy tebygol o brofi cyfnodau o iselder a phroblemau iechyd meddwl difrifol, fel sgitsoffrenia, o'u cymharu â rhieni mewn cyplau.
Bu profiadau Amy a Rachel eu hunain fel rhieni sengl yn ddylanwad allweddol ar gyfeiriad Llesiant Rhieni Sengl. Roedd Rachel eisiau cwrdd â phobl â phrofiadau tebyg, ac eglurodd Amy fod dioddef o iselder ôl-enedigol ac yna dod yn rhiant sengl pan oedd ei baban yn chwe mis oed "wedi agor fy llygaid yn fawr i'r hyn oedd ei angen ar rieni sengl. Ni fyddem yn mynd allan ar benwythnos oherwydd roeddwn i'n credu y byddai pobl yn fy ngweld i fel rhiant sengl. Ond roeddwn i'n gwybod mai'r unig un allai fy helpu oedd fi fy hunan, a bod mynd allan yn dda i'm hiechyd meddwl." Gwnaeth y cyfuniad hwn o brofiadau arwain at weithgaredd cyntaf Llesiant Rhieni Sengl ym mis Hydref 2016 — teithiau cerdded ar benwythnosau gyda phlant a rhieni ledled Caerdydd a'r fro. "Mae'r pwyslais ar lesiant a hapusrwydd, ac mae am ddim ac yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar gefn gwlad prydferth Cymru. Mae pobl yn helpu ei gilydd yn barhaus. Mae'n edrych fel grŵp mawr o ffrindiau, mae fel ail deulu.”
Yn fuan iawn, daeth y teithiau cerdded yn boblogaidd, gan gyrraedd nod o 110 mil o gamau mewn blwyddyn, ac eglurodd Amy a Rachel wrth y cyfranogwyr y byddent yn gwerthfawrogi adborth ganddynt er mwyn llunio cynnig Llesiant Rhieni Sengl. Mae gan rieni sengl lais ym mhopeth y mae Llesiant Rhieni Sengl yn ei wneud, gan gynnwys y ffordd y caiff ei reoli. Mae gan Llesiant Rhieni Sengl dri aelod bwrdd yn ychwanegol at Amy a Rachel, ac mae pob un ohonynt wedi bod yn rhieni sengl.