Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o rieni sengl, ond caiff popeth yr ydym yn ei wneud ei redeg gan rieni sengl. Ac mae'r prif bwyslais ar lesiant y rhieni. Ein nod yw grymuso ein rhieni sengl ac arwain gyda chefnogaeth gan gymheiriaid a gwirfoddolwyr.
Mae llawer o ffyrdd y gall rhieni sengl ymuno â'n grŵp a'n cymuned ymledol:
Grŵp Facebook personol, ble mae llawer o bobl yn cynnig cyngor, cymorth a llawer o bositifrwydd.
Dod yn aelod, ein cefnogi drwy ddod yn aelod a chofrestru i gael mynediad at yr ardal i aelodau'n unig, ble ceir lliaws o adnoddau rhyngweithiol, gan gynnwys blogiau, flogiau, fideos a phodlediadau.
Ymuno â ni mewn digwyddiad - rydym wedi gwneud popeth o deithiau i'r theatr i ddysgu sut i drin car.
Gweithdai llesiant - gweithdai chwe wythnos o hyd am lesiant yw'r rhain a ariennir gan y Loteri Fawr. Maen nhw'n ffordd gadarnhaol a rhagweithiol o reoli eich iechyd a lles meddyliol ac ehangu eich rhwydwaith o rieni sengl ar yr un pryd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.
Dewch am dro gyda'ch plant ar daith gerdded, gan hybu cerdded ar gyfer llesiant. Rhagor o wybodaeth yma.
Dewch yn wirfoddolwr - mae gennym rolau gwirfoddol wedi'u teilwra sy'n seiliedig ar yr hyn rydych yn gobeithio ei gyflawni a'i ennill yn y dyfodol.